Ffefryn arall gyda’n hymwelwyr sy’n dychwelyd iddo dro ar ôl tro. Mae wedi ei leoli o fewn yr ardd furiog hanesyddol gyda’i choed afalau hen ffasiwn, dwy erw o lawntiau a phwll addurnol heddychlon - lle perffaith i ddarllen llyfr. Neu, gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch am dro i weld y planhigion a’r coed arbenigol.
Mwynhewch yr ardal fwyta breifat al-fresco sy’n edrych dros y borderi blodau lliwgar ar nosweithiau cynnes, neu cynheswch eich traed o flaen y stof llosgi coed yn yr ystafell fyw glyd a chyfforddus ar noson oer.
Mae Bwthyn yr Ardd yn:
Mae’r bwthyn hardd hwn o fewn yr Ardd Furiog a chredir mai dyma Fwthyn y Garddwr yn wreiddiol. Mae golygfeydd panoramig dros yr Ardd Furiog a’r Parcdir yn y cefn. Mae hwn yn ffefryn gan nifer o’n gwesteion, ac mae ganddo ei ddeildy a’i lawr ffurfiol ei hun gyda gwrychoedd pren bocs wedi eu clipio.
Mae’r tu mewn wedi ei ddodrefnu’n chwaethus ar sail thema’r ardd. Mae lloriau llechi lleol a theils terra cotta wedi eu hadfer ar y llawr isaf, gyda lloriau pren a rygiau ar y llawr cyntaf. Mae gwaith coed pwrpasol o dderw trwy’r bwthyn i sicrhau ansawdd a chreu awyrgylch gynhesol. Mae ystafell fyw fawr gyda stof llosgi coed, soffa gyfforddus a dewis da o lyfrau. Mae peiriant chwarae Freeview a DVDs. Mae llechi ar lawr y gegin, bwrdd derw solet a golygfeydd braf i gyfeiriad y parcdir. Mae'n cynnwys hob trydan, microdon, peiriant golchi/sychu a pheiriant golchi llestri, a’r holl offer sydd ei angen mewn cegin fodern. System gwres canolog trwyddo. Mae mesurydd ar gyfer mesur y tanwydd.
Mae grisiau derw’n arwain i fyny i’r ystafelloedd gwely sydd wedi eu dodrefnu ag antîcs. Mae trawstiau derw gwych a gwely dwbl antîc, gyda golygfeydd draw am y borderi blodau lliwgar a’r parcdir eang. Mae’r ystafell wely arall yn llai, gyda wardrob a gwely dwbl derw llai gyda thopwaith wedi’i gerfio’n siâp pîn-afal, ac mae’n edrych dros y pren bocs.
Mae ystafell gawod braf a thoiled a basn ymolchi.
Mae digon o le parcio cyfleus y tu allan i bob bwthyn ac mae’r Rheolwr sydd ar y safle ar gael i’ch helpu ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych tra byddwch yn aros yma.
Mae’r holl ddillad gwely a’r llieiniau wedi eu cynnwys yn y prisiau. Rydym hefyd yn cynnwys pecyn brecwast am ddim er hwylustod.
Mae tân coed yn y Coetsiws a Bwthyn yr Ardd ac mae’r holl goed wedi eu cynnwys yn y prisiau.
Yn anffodus, nid ydym yn derbyn anifeiliaid anwes yn unrhyw un o'n bythynnod.
Fel arfer mae Bwthyn yr Ardd yn cael ei osod o ddydd Sadwrn tan ddydd Sadwrn.
Mae prisiau Penwythnos yr un fath â phrisiau Canol Wythnos. Gwyliau Byr ddim ar gael yn ystod Gorffennaf ac Awst.
Gwyliau Penwythnos dydd Sadwrn – dydd Llun (3 noson).
Gwyliau Canol Wythnos dydd Mawrth- dydd Sadwrn (4 noson).
DATE | TARIFF | AVAILABILITY | EXTRA INFORMATION |
13.09.14 - 20.09.14 | BOOKED | ||
20.09.14 - 25.09.14 |
|
BOOKED | 5 nights |
26.09.14 - 29.09.14 | BOOKED | ||
30.09.14 - 04.10.14 | BOOKED | ||
04.10.14 - 07.10.14 |
|
BOOKED | |
07.10.14 - 11.10.14 | BOOKED | 4 Nights | |
11.10.14 - 18.10.14 | BOOKED | ||
18.10.14 - 25.10.14 | £620 | Available | |
25.10.14 - 31.10.14 | £500 | Provisional | 6 Nights |
31.10.14 - 04.11.14 | BOOKED | ||
04.11.14 - 08.11.14 |
|
BOOKED | 4 Nights |
08.11.14 - 15.11.14 | £450 | Available | |
15.11.14 - 22.11.14 | £450 | Available | |
22.11.14 - 29.11.14 | £450 | Available | |
29.11.14 - 06.12.14 | £400 | Available | |
06.12.14 - 13.12.14 | £400 | Available | |
20.12.14 - 27.12.14 | £680 | Available | CHRISTMAS |
28.12.14 - 04.01.15 | BOOKED | NEW YEAR | |
04.01.15 - 10.01.15 | Available | 6 Nights | |
10.01.15 - 17.01.15 | £400 | Available | |
17.01.15 - 24.01.15 | £400 | Available | |
24.01.15 - 31.01.15 | £400 | Available | |
31.01.15 - 07.02.15 | £400 | Available | |
07.02.15 - 14.02.15 | £480 | Available | |
14.02.15 - 18.02.15 | £340 | Available | 4 nights |
18.02.15 - 21.02.15 | £270 | BOOKED | 3 nights |
21.02.15 - 28.02.15 | Available | ||
28.02.15 - 07.03.15 | £400 | Available | |
07.03.15 - 14.03.15 | £400 | Available | |
14.03.15 - 21.03.15 | £400 | Available | |
21.03.15 - 28.03.15 | £440 | Available | |
28.03.15 - 04.04.15 | £480 | Available | |
04.04.15 - 11.04.15 | BOOKED | EASTER | |
11.04.15 - 17.04.15 | BOOKED | ||
18.04.15 - 25.04.15 | £580 | Available | |
25.04.15 - 28.04.15 | £390 | Available | 3 nights |
28.04.15 - 01.05.15 | BOOKED | 3 nights | |
02.05.15 - 09.05.15 | £600 | Available | |
11.05.15 - 14.05.15 | BOOKED | ||
16.05.15 - 23.05.15 | £600 | Available | |
23.05.15 - 29.05.15 | BOOKED | MAY BANK HOLIDAY | |
30.05.15 - 05.06.15 | BOOKED | ||
06.06.15 - 13.06.15 | £600 | Available | |
13.06.15 - 20.06.15 | BOOKED | ||
20.06.15 - 26.06.15 | BOOKED | ||
27.06.15 - 04.07.15 | £600 | Available | |
04.07.15 - 10.07.15 | BOOKED | ||
11.07.15 - 18.07.15 | £640 | Available | |
18.07.15 - 25.07.15 | £640 | Available | |
25.07.15 - 01.08.15 | £640 | Available | |
01.08.15 - 08.08.15 | £650 | Available | |
08.08.15 - 15.08.15 | BOOKED | ||
15.08.15 - 21.08.15 | BOOKED | ||
22.08.15 - 29.08.15 | £650 | Available | |
29.08.15 - 05.09.15 | £650 | Available | AUTUMN BANK HOLIDAY |
05.09.15 - 12.09.15 | £600 | Available | |
12.09.15 - 19.09.15 | £600 | Available | |
19.09.15 - 26.09.15 | £600 | Available | |
26.09.15 - 03.10.15 | £600 | Available | |
03.10.15 - 10.10.15 | £600 | Available | |
10.10.15 - 17.10.15 | £640 | Available | |
17.10.15 - 24.10.15 | £640 | Available | |
24.10.15 - 31.10.15 | £600 | Available | |
31.10.15 - 07.11.15 | £500 | Available | |
07.11.15 - 14.11.15 | £470 | Available | |
14.11.15 - 21.11.15 | £470 | Available | |
21.11.15 - 28.11.15 | £450 | Available | |
28.11.15 - 05.12.15 | £450 | Available | |
05.12.15 - 12.12.15 | £450 | Available | |
12.12.15 - 19.12.15 | £450 | Available | |
20.12.15 - 27.12.15 | £700 | Available | CHRISTMAS 4 nights £590 |
29.12.15 - 05.01.16 | £700 | Available | NEW YEAR 4 nights £590 |