Yn 1996, prynwyd Plas Cadnant a’r ystâd 200 erw gan y perchennog presennol a dechreuodd adfer yr ardd hanesyddol a’r tir. Ers hynny mae rhannau mawr o’r gerddi wedi eu gweddnewid ac wedi eu hadfer i’w hen ogoniant.
Mae Gerddi Plas Cadnant, sydd ar lan y Fenai mewn llecyn cudd ger Porthaethwy ar Ynys Môn, yn cael eu disgrifio fel un o gyfrinachau pennaf Gogledd Cymru.
Roedd cyn berchnogion Plas Cadnant yn perthyn i’r teulu Tremayne o Heligan House, sydd bellach yn enwog am ei Erddi Coll.
Mae gardd newydd yn cael ei chreu ar safle hanesyddol, ac yn datblygu’n baradwys i blanwyr. Caiff ei hystyried ymysg ugain gardd fwyaf apelgar Cymru, ac mae wedi ei chynnwys mewn llyfr newydd 'Discovering Welsh Gardens'. Mae’r gwaith datblygu’n parhau...
Mae llawer o waith i’w wneud o hyd a gobeithio y byddwch yn dod draw i’n gweld neu edrychwch ar y wefan i weld y cynnydd yr ydym yn ei wneud.
Darganfuwyd tair gardd wahanol, yn cynnwys gardd furiog anghyffredin gyda waliau ar dro a phwll, gardd y dyffryn gyda thair rhaeadr ac afon, a gardd uchaf y coetir gyda brigiadau ac adfail ffug adeilad o’r 19eg ganrif.
Y cam cyntaf oedd achub y tŷ a’r bythynnod, a mynd ati’n ofalus i adfer yr adeiladau allanol a bwthyn y garddwr gan ddefnyddio technegau a defnyddiau traddodiadol; mae’r rhain bellach yn cael eu gosod fel bythynnod gwyliau i gael rhywfaint o incwm.
Dechreuwyd y gwaith o adfer y gerddi a’r tir yn 1997, roedd hon yn dasg enfawr gan nad oedd rhannau mawr o’r ardd wedi eu cynnal am dros saith deg o flynyddoedd. Yn 1998 datblygwyd y rhan yn union y tu ôl i’r prif dŷ fel ‘gardd berlysiau’. Y flwyddyn ganlynol plannwyd yr iard gysgodol rhwng y bythynnod i greu gardd.
Sefydlwyd yr ardd yng Nghadnant yn 1804 pan ddewisodd John Price safle hynod o hardd ar gyfer ei dŷ sioraidd newydd. Defnyddiwyd yr ardd furiog i fel perllan a gardd lysiau, ac roedd systemau llwybrau ar hyd y tir. Cafodd yr ystâd ei chynnal yn dda gan John Price tan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1928 rhannwyd yr ystâd ac fe’i gwerthwyd i wahanol berchnogion.
Roedd y perchennog newydd yn arddwr brwd ac yn hoff o blannu ond roedd nifer y staff a’r adnoddau ac ati’n prinhau. Gwnaed yr ardd yn llai ac fe’i cyfyngwyd i ardal fach o gwmpas y prif dŷ a llecyn bychan yng nghornel yr ardd furiog.
Mae’r perchennog presennol wedi bod yn adfer yr ystâd a’r gerddi ers 1996. Roedd y gerddi wedi eu gadael ers tro ac wedi gordyfu’n llwyr bron gydag eginblanhigion o goed wedi hau eu hunain a thyfu’n fawr, llawr-geirios a choed rhododendron gwyllt.
Wrth i’r gwaith o adfer a datblygu’r safle fynd rhagddo, ein bwriad yw agor y gerddi i fwy o ymwelwyr, gan ei fod yn bleser pur rhannu’r darn hwn o baradwys gyda’r holl bobl sy’n rhannu ein dyheadau ar gyfer dyfodol y dyffryn hardd hwn.
Sut i gyrraedd Plas Cadnant
AEr y bydd gan nifer o’n hymwelwyr declynnau llywio lloeren o bob math, rydym wedi cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd yma a dolenni cyswllt i fap manylach a chynlluniwr taith i unrhyw un sydd heb declyn llywio lloeren.
O ganol dinas Bangor
O ffordd gyflym yr A55 o gyfeiriad y tir mawr
O ffordd gyflym yr A55 o gyfeiriad Dulyn/Caergybi
Oedolion: £9.50
Consesiynau: £9 (60 +)
Plant (6-16 oed): £2
Plant 5 ac iau: Rhad ac am ddim
Ymwelwyr anabl: £4.00
Teulu: £21.00
Nodwch nad yw rhai o'r gerddi yn addas ar gyfer ymwelwyr llai abl oherwydd mwy serth incleins a llwybrau graean. Nid yw'r ardaloedd yn bendant yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd.
Ffoniwch 01724 717174 e-bost atom os hoffech drafod hygyrchedd.
Mewn ymateb i’r galw, mae Tocyn Tymor bellach ar gael am £26 ac mae'n ddilys am 12 mis o’r dyddiad yr ydych yn ei brynu.
Mae'r Gerddi Plas Cadnant yn rhan o brosiect adfer parhaus y Stad. Ymestyn i bron i ddeg erw, mae'r ardd yn dri maes penodol: Y 'Walled Garden' mawr, The 'Garden Valley' gyda'i rhaeadrau a'r 'Gardd Goetir Uchaf'.
Mae'r gerddi gerllaw'r bythynnod yn agored i'r cyhoedd yn gyffredinol ar rai diwrnodau.
Awst 2022 |
||||||
Sul | Llu | Maw | Mer | Iau | Gwe | Sad |
01 | 02 | 03 | 04 | 05 | 06 | |
07 | 08 | 09 | 10 | 11 | 12 | 13 |
14 | 15 | 16 | 17 | 18 | 19 | 20 |
21 | 22 | 23 | 24 | 25 | 26 | 27 |
28 | 29 | 30 | 31 | |||
Medi 2022 |
||||||
Sul | Llu | Maw | Mer | Iau | Gwe | Sad |
|
|
01 | 02 | 03 | ||
04 | 05 | 06 | 07 | 08 | 09 | 10 |
11 | 12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 |
18 | 19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 |
25 | 26 | 27 | 28 | 29 | 30 | |
Hydref 2022 |
||||||
Sul | Llu | Maw | Mer | Iau | Gwe | Sad |
01 | ||||||
02 | 03 | 04 | 05 | 06 | 07 | 08 |
09 | 10 | 11 | 12 | 13 | 14 | 15 |
16 | 17 | 18 | 19 | 20 | 21 | 22 |
23 | 24 | 25 | 26 | 27 | 28 | 29 |
30 | 31 |
Beth am ddod â'ch grŵp neu gymdeithas ar gyfer daith breifat o Plas Cadnant Cudd Gardens? Yn seiliedig ar isafswm maint grŵp o 30 o bobl, mae ystod o becynnau ar gael, gan gynnwys cyflwyniadau o 'cyn ac ar ôl' y gwaith adfer, lluniaeth ysgafn neu giniawau ysgafn drwy drefniant. Rhaid i bob grŵp o flaen llaw.
Ffoniwch 01248 717174 neu e-bostiwch i drafod eich syniadau.
£8 y pen
(Gardd yn Unig)
£12.75 y pen
(Gardd a lluniaeth ysgafn)
£16.75 y pen
(Garden a lluniaeth ysgafn a chyflwyniad a thaith breifat)
Dylid caniatáu: 2 awr ar gyfer yr ymweliad
Gellir teilwra ymweliadau ar sail gofynion
Digonedd o le i barcio bysys a mynediad hwylus (ddim yn bell o Lanfairpwll a Biwmares). Llai na 5 munud o’r A55
Nodwch nad yw rhai ardaloedd yn y gerddi’n addas i bobl llai abl oherwydd y llethrau serth a’r llwybrau gro. Nid yw’r ardaloedd hyn yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu gadeiriau modur. Ffoniwch i gael rhagor o wybodaeth 01248 717174
Gweld ein datganiad mynediad
Mae Ystâd Plas Cadnant yn swatio yn y dirwedd rhwng Porthaethwy a Biwmares yn Ynys Môn, Gogledd Cymru. Chwiliwch am yr arwyddion twristiaeth brown wrth i chi adael Porthaethwy i gyfeiriad Biwmares.
Dod o hyd i ni ar fapiau ar-lein
Os oes unrhyw broblem ffoniwch ni ar 01248 717174 neu 07932 704 673.
Ewch trwy gatiau’r fynedfa ger Porthordy Cadnant a dilynwch y ffordd i fyny’r allt. Mae hanner milltir o’r gatiau at y maes parcio. Ar ôl mynd dros ddau grid gwartheg mae’r lle parcio a’r fynedfa i’r ardd o’ch blaen.
Mae ein hystafell de yn agored i bawb sy’n ymweld â’r ardd yn ystod yr amseroedd hyn. Rydym yn gweini te, a choffi ffres mewn potiau arian ac mae dewis o sgons gyda jam a hufen a chacennau cartref.
Yn anffodus, ni chaniateir cŵn yn y gerddi. Cewch fynd a chŵn ar ein parcdir (ar dennyn gan fod defaid ac ŵyn yno), mae lle i barcio yn y cysgod a dŵr ar gael.