Plas Cadnant
  • English

Gardens01248 717174

garden@plascadnant.co.uk

Cottages01248 717007

cottage@plascadnant.co.uk

  • HAFAN
  • Y GERDDI CUDD
  • BYTHYNNOD GWYLIAU
  • YR YSTÂD
  • DIGWYDDIADAU
  • Newyddion
  • ORIEL

Plas Cadnant Gardens The Estate

Yr Ystâd

Yr Ystâd

Ystâd breifat, unigryw 200 erw sydd wedi ei lleoli mewn dyffryn cudd hardd, yn edrych dros y Fenai a mynyddoedd Eryri. Fe’i disgrifir fel ‘cyfrinach orau Gogledd Cymru’. Mae hanes lleol lliwgar yn ymestyn yn ôl am 900 mlynedd yn gysylltiedig ag ystâd Plas Cadnant.

Mae ein bythynnod hunan arlwyo unigryw wedi eu lleoli mewn 10 erw o erddi hardd sydd wedi eu hamgylchynu gan 200 erw o barcdir braf. Dyma leoliad delfrydol i ddianc rhag bwrlwm bywyd bob dydd, ond eto o fewn cyrraedd hwylus i amwynderau lleol ac atyniadau ymwelwyr.

P’un ai a ydych chi newydd briodi ac yn chwilio am le perffaith i dreulio eich mis mêl, yn grŵp bach sydd eisiau bod yn agos at natur neu’n grŵp mawr sy’n dathlu achlysur arbennig, mae hwn yn lleoliad delfrydol ac mae gennym y bwthyn perffaith i chi.

Efallai nad yw Plas Cadnant yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl o ystâd wledig breifat. Mae'n lle heddychlon i ymlacio gydag awyrgylch cynnes a chyfeillgar, lle gallwch gael seibiant llwyr a dod i gysylltiad unwaith eto â byd natur.

Mae digon yma i’w weld os ydych eisiau mynd am dro a pheidio â defnyddio eich car ar ôl cyrraedd. Neu mae nifer o gestyll hanesyddol, gerddi a thraethau arbennig heb fod yn bell.

Yn yr Ardal

Mae Ystâd Plas Cadnant mewn lleoliad gwych, yn agos at amwynderau lleol, ac eto’n swatio mewn dyffryn cudd delfrydol. Mae digon o ddewis i ymwelwyr yn Ynys Môn gydag amrywiaeth o dirwedd a golygfeydd gwych o’r mynyddoedd, y môr a’r wlad. Darllen mwy...

Cyswllt


Plas Cadnant
Ffordd Cadnant
Porthaethwy
Ynys Môn
LL59 5NH

Cyswllt


Gerddi: 01248 717174
garden@plascadnant.co.uk

Bythynnod: 01248 717007
cottage@plascadnant.co.uk

Dolenni cyflym


Y Gerddi Cudd
Yr Ystâd
YN YR ARDAL
Newyddion
Oriel Luniau
Datganiad mynediad

Dolenni cyflym


Bythynnod Gwyliau
Y Coetsiws
Yr Hen Laethdy
Porthordy Cadnant
Bwthyn yr Ardd
Y Bragdy


Site by WiSS Ltd